Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 20(4) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2015 Rhif (Cy. )
meinweoedd dynol, CYMRU
Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).
Mae adran 7(4) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid cael cydsyniad datganedig ar gyfer tynnu deunydd perthnasol a eithrir at ddibenion gweithgaredd trawsblannu.
Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y diffiniad o ddeunydd perthnasol a eithrir at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 20(4) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru DRAFFT
2015 Rhif (Cy. )
meinweoedd dynol, CYMRU
Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015
Gwnaed ***
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau yn adrannau 7(2) ac 20(1) a (2) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013([1]) ac ar ôl cynnal unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus sy’n briodol yn eu barn hwy yn unol ag adran 20(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 20(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 a deuant i rym am 00:01 ar 1 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013.
Deunydd perthnasol a eithrir
2.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraff (4).
(2) At ddibenion adran 7(2) o’r Ddeddf, pennir y cyfan neu ran o’r meinweoedd cyfansawdd a ganlyn (“meinweoedd cyfansawdd a eithrir”) yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
(a) ymennydd;
(b) madruddyn y cefn;
(c) wyneb;
(d) trwyn;
(e) ceg;
(f) braich;
(g) rhan uchaf y fraich;
(h) elin;
(i) llaw;
(j) bys;
(k) coes;
(l) morddwyd;
(m) rhan isaf y goes;
(n) troed; neu
(o) bys troed.
(3) At ddibenion adran 7(2) o’r Ddeddf, pennir y cyfan neu ran o unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
(a) ofari;
(b) croth;
(c) pidyn;
(d) caill;
(e) ffetws;
(f) brych;
(g) llinyn bogail; neu
(h) embryo (y tu mewn i’r corff).
(4) Nid yw’r cyfan neu ran o unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n rhan o unrhyw feinweoedd cyfansawdd a eithrir yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
(a) llygad;
(b) meinweoedd nerfol;
(c) rhydweli;
(d) asgwrn;
(e) cyhyr;
(f) tendon; neu
(g) croen,
i’r graddau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer trawsblannu unrhyw feinweoedd cyfansawdd a eithrir.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad